MEWN
TWLL?
Cymorth clir am gostau byw yng Nghymru. Os ydych chi'n poeni am rent, biliau, gofal plant, costau ysgol, budd-daliadau neu arian brys — anfonwch neges atom yn Gymraeg.
Anfonwch neges
— a cael ateb clir.
Anfona neges yn geiriau dy hun:
- beth sydd wedi digwydd
- ym mha ardal yng Nghymru ti'n byw
- pa gostau neu broblemau sy'n dy boeni
Er enghraifft
Cymorth
yn Gymraeg.
Mae llawer o gymorth ar gael yng Nghymru. Gallwch ofyn am help gydag unrhyw un o'r rhain - neu rywbeth arall sy'n eich poeni.
Costau byw
Cymorth cyffredinol gyda delio a pwysau costau byw o ddydd i ddydd.
Rhent a thai
Problemau rhent, hefo'r landlord, neu chwilio am dai cymdeithasol.
Biliau ynni
Trydan, nwy, tariffau, mesuryddion talu, a chymorth tanwydd.
Biliau dŵr
Cynlluniau cymorth fel WaterSure a thariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.
Treth cyngor
Gostyngiad Treth Cyngor, eithriadau a chynlluniau cymorth lleol.
Gofal plant
Cynnig Gofal Plant Cymru, Dechrau'n Deg a chymorth lleol.
Costau ysgol
Grant Datblygu Disgyblion, help gyda cost gwisg ysgol
Prydau ysgol am ddim
Gwirio cymhwyster a sut i wneud cais drwy eich cyngor lleol.
Arian brys
Cronfa Cymorth Dewisol (DAF), banciau bwyd a chymorth brys lleol.
Tri cham
syml.
Anfonwch e-bost
Anfonwch e-bost yn Gymraeg i mewntwll@cian.cymru gyda'ch sefyllfa yn eich geiriau eich hun.
Ffeindio gwybodaeth
Rydym wedyn yn edrych ar y wybodaeth berthnasol am gymorth yng Nghymru — o ffynonellau cyhoeddus dibynadwy:
- Llywodraeth Cymru
- Cynghorau lleol
- Gwasanaethau tai a chynlluniau cymorth
- Sefydliadau a chynghorwyr dibynadwy
Cewch ateb clir
Paratoi ateb clir sy'n esbonio:
- pa fath o gymorth allai fod yn berthnasol
- pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen
- pa gamau nesaf y gallech eu cymryd
- ble i fynd am gymorth swyddogol neu arbenigol
Cian sy'n
helpu drafftio.
Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio Cian, cynorthwyydd AI, i helpu i ddod o hyd i
wybodaeth berthnasol ac i ddrafftio atebion clir yn Gymraeg. Mae pob draft yn dangos cyfieithiad Saesneg i staff gwirfoddol Mewn Twll? i'w adolygu cyn anfon.
Mae Cian yn helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau a gweithredu yn unol a Safonau'r Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth ewch i cian.cymru
GWNEUD Y
CAM NESAF
YN GLIRIACH.
Mae llawer o gymorth ar gael yng Nghymru, ond mae'r wybodaeth yn aml wedi'i gwasgaru ar draws gwefannau, ffurflenni, cynlluniau a chynghorau gwahanol. Nod Mewn Twll? yw helpu i wneud y cam nesaf yn gliriach.